Mae rhaglen RICE yn ymateb uniongyrchol i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau CO2, nad oes modd eu cyrraedd â’r dechnoleg bresennol yn unig.
Diwydiant yw prif ffynhonnell allyriadau CO2 yng Nghymru, sy’n awgrymu mai dadgarboneiddio prosesau diwydiannol yw un o’r dulliau sy’n cael yr effaith fwyaf er mwyn cyrraedd ein targedau ein hunain a thargedau cytundeb Paris ar yr hinsawdd. Bydd RICE yn gweithio gyda diwydiant i brofi a sbarduno defnydd o dechnolegau carbon isel, a hefyd yn hwyluso creu diwydiannau newydd, sy’n gallu mwyafu’r technolegau hyn o’r genhedlaeth nesaf er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol.